GWERSI OFFERYNNOL / INSTRUMENTAL LESSONS
Mae athrawon offerynnol teithiol yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol er mwyn darparu gwersi pres, drymiau, llinynnau a thelyn. Gall plant gwneud cais am wersi offerynnol o Flwyddyn 2 ymlaen, a’r athrawon arbenigol sy’n gyfrifol am ddewis y plant i dderbyn gwersi yn ôl canllawiau penodedig. Os na fydd plentyn yn cael ei ddewis, gall ef/hi ymgeisio eto’r flwyddyn ganlynol.
Fel rheol, gall disgyblion ddysgu chwarae un offeryn yn unig, serch hynny ystyrir ehangu’r ddarpariaeth i ddau offeryn, ond nid mwy, ar gyfer disgyblion sy’n dalentog iawn yn gerddorol. Gofynnir am gyfraniad o £4.00 yr wythnos neu daliad tymor cyn ddechrau’r gwersi.
Offeryn / Instrument | Athrawes / Teacher | Diwrnod / Day |
Drwm / Drums | Mr Lyn Rees | Dydd Llun / Monday |
Telyn / Harp | Miss Katie Bayliss | Dydd Mercher / Wednesday |
Llinynnau / Strings | Dydd Iau / Thursday | |
Pres / Brass | Mr Wayne Pedrick | Dydd Gwener / Friday |