Ymlaen law yn llaw

GweledigaethVision

Nodau ac Amcanion  

Ein nod yw anelu bod: 

*pob disgybl yn cael cyfle i ddatblygu fel unigolion uchelgeisiol, chwilfrydig sydd yn awyddus i herio eu hunain er mwyn gwella ac yn dyfalbarhau wrth wynebu anawsterau. 

 *pwyslais ar ddatblygu deallusrwydd emosiynol y plant er mwyn iddyn nhw arddangos hunan dosturi, hunan ymwybyddiaeth, hunan hyder, empathi, cwrteisi a charedigrwydd tuag at eraill.  

* plant yn cael eu hannog i chwarae rôl flaenllaw a gweithredol ym mywyd yr ysgol a’r gymuned leol 

*pawb yn magu balchder yn yr iaith Gymraeg, ein diwylliant lleol a chenedlaethol  

*pob plentyn yn ddwyieithog ac yn hyderus wrth fynegi barn, cyflwyno gwybodaeth a pherfformio.  

*pob disgybl yn datblygu i fod yn oedolyn cyfrifol yn eu cymunedau ac yn datblygu’n ddinasyddion byd eang sydd yn parchu safbwyntiau eraill a’r amgylchedd. 

*y plant yn deall pwysigrwydd cadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol a’r hyn gallwn wneud i edrych ar ôl ein hunain. 

*pob plentyn yn gallu cyd-weithio’n effeithiol gydag eraill boed ar y maes chwarae, yn yr ystafell ddosbarth neu allan yn y gymuned. 

*pob plentyn yn cael cyfleoedd i ddysgu sut i gadw’n ddiogel ym mywyd pob dydd gan gynnwys cadw’n ddiogel ar lein.  

 

Addysgu, dysgu a phrofiadau – Sut fyddwn yn sicrhau’r nodau a’r amcanion yma? 

*Byddwn yn creu awyrgylch ac amgylchedd hapus, cartrefol a gofalgar sydd yn pwysleisio canmoliaeth fel yr arf i ysgogi’r dysgu.  

*Byddwn yn cynnig ystod o brofiadau a chyfleoedd cyfoethog.  

* Byddwn yn cynllunio cwricwlwm sbardunol sydd gyda ffocws ar yr adral leol, Cymru a’r byd yng nghyd-destun y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. 

*Byddwn yn rhoi cyfleoedd i’r plant ddysgu sgiliau eang ac amrywiol cyn eu cymhwyso’n annibynnol mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd. 

*Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored.  

*Byddwn yn sicrhau bod y disgybl yn ganolog i’r broses o ddysgu a bod cyfraniad pob unigolyn yn cael ei barchu. 

*Byddwn yn rhoi cyfleoedd i’r plant fod yn rhan o’r broses o wybod ble maen nhw yn eu dysgu ac eu bod yn deall yr hyn sydd angen iddyn nhw wneud i wella. 

*Byddwn yn meithrin cysylltiadau cryf gyda’r gymuned. 

Aims and Objectives 

Our aim is that: 

* all pupils have the opportunity to develop as ambitious, inquisitive individuals who are eager to challenge themselves in order to improve and persevere when faced with challenges.  

 * children develop their emotional intelligence so that they display self compassion, self awareness and self confidence and that they are empathetic, courteous and kind towards others. 

* all children are encouraged to play a leading and active role in the life of the school and the local community. 

* everyone takes pride in the Welsh language, our local culture and national culture. 

* all children are bilingual and confident in expressing opinions, presenting information and performing. 

* all pupils develop into responsible adults in their communities and become global citizens who respect the views of others and the environment. 

* the children understand the importance of keeping physically and mentally healthy and what they can do to look after ourselves. 

* all children are able to co-operate effectively with others whether on the playground, in the classroom and out in the community. 

* all children have opportunities to learn how to stay safe in everyday life including keeping safe online. 

Teaching, learning and experiences – How will we achieve these aims and objectives? 

* We will create a happy, homely and caring atmosphere and environment that emphasises praise as the tool to stimulate learning. 

* We will offer a range of rich experiences and opportunities. 

* We will design a stimulating curriculum focused on the local area, Wales and the world in the context of past, present and future. 

* We will provide children with opportunities to learn broad and varied skills before applying them independently in cross-curricular contexts. 

* We will take advantage of opportunities to learn outdoors. 

* We will ensure that the pupil is central to the learning process and that the contribution of each individual is respected. 

* We will provide opportunities for children to be involved in knowing where they are in their learning and that they understand what they need to do to improve. 

* We will build strong links with the community.