Cymorth i rieni / teuluoedd / plant meithrin a derbyn
Support for parents / families / children in nursery and reception
Cyrsiau Cymraeg i ddechreuwyr / Welsh beginners courses
Mae ein Swyddogion Ymgysylltu Teulu yn gallu eich cynorthwyo gyda’r broses o ddarganfod cwrs addas; rydym yn cynnal cyrsiau yn achlysurol yn yr ysgol hefyd. Plis ebostwich ar
syt@ysgolgcg.npt.school a byddwn yn cysylltu yn syth gydag unrhyw gymorth sydd angen neu i drefnu sgwrs pellach am ddysgu Cymraeg.
Our School Engagement Officers can help you with the process of finding a suitable course; we also occasionally run courses here in school. Please contact syt@ysgolgcg.npt.school for more information or to arrange a chat about learning Welsh.
Isod mae gwefannau defnyddiol / Below are some useful websites:
Gwefan dysgucymraeg.cymru website
Y Lolfa Llyfrgell GCG / GCG Library
(Llwyth o gefnogaeth lleol – cwrs ‘Camau Cyntaf yng Nghymraeg’ a caffi Cymraeg pob bore dydd Mawrth. Great deal of local support here – First Steps in Welsh course and a ‘Caffi Cymraeg’ every Tuesday morning)
Cymraeg Adref / Welsh at Home
Isod mae dolenni i adnoddau ar lein sydd yn eich helpu i ddysgu geirfa syml gallwch ddefnyddio adref gyda’ch plentyn. Mae defnyddio Cymraeg achlysurol tra’n gwneud gweithgareddau bob dydd, fel paratoi’r bwrdd cyn bwyd, yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w datblygiad ieithyddo.
Below are links to online resources which can help you learn simple vocabulary to use at home with your child; using incidental Welsh while doing everyday activities like making the table before tea can have a huge impact on their language development.
Cymraeg Adref GCG – Geirfa Gwahanol / Vocabulary resource
Welsh Language toolkit – developed by Blynyddoedd Cynnar Cymru / Early Years Wales
(Sgroliwch i waelod y dudalen yma ac mae cyfres o PDFs yna ar gyfer elfennau gwahanol o fywyd pob dydd – dewisiwch ‘South – De’ er mwyn cael yr iaith perthnasol! Scroll down to the bottom of this webpage and there are a series of PDFs which offer simple vocabulary for different aspects of every day life – choose ‘South -De’ to have the local terminology!)
Dechrau darllen / Starting to read
I blant yn y Meithrin a’r Dosbarth Derbyn, y ffordd bwysicaf y gall rhieni helpu gartref yw drwy feithrin sgiliau iaith a gwrando cryf. Nid yw darllen cynnar yn golygu dysgu darllen geiriau neu lythrennau cyn gynted â phosibl; yn hytrach, mae’n ymwneud â datblygu geirfa, gwrando’n ofalus a mwynhau straeon, caneuon a rhigymau. Mae’r profiadau hyn yn adeiladu’r sylfeini pwysig sydd eu hangen cyn i blant ddechrau darllen geiriau yn ffurfiol yn yr ysgol.
Gallwch gefnogi eich plentyn gartref drwy:
-
Siarad gyda’ch gilydd yn aml – mae sgyrsiau bob dydd yn helpu i ddatblygu geirfa a dealltwriaeth.
-
Darllen straeon bob dydd – mwynhewch lyfrau gyda’ch gilydd a siaradwch am y lluniau, y cymeriadau a’r digwyddiadau.
-
Canu caneuon a rhigymau – mae rhigymau yn helpu plant i glywed patrymau a synau mewn geiriau.
-
Chwarae gemau gwrando – sylwi ar synau o’ch cwmpas fel adar, ceir neu offerynnau cerdd.
-
Annog lluniadu a gwneud marciau – mae hyn yn datblygu sgiliau ysgrifennu cynnar a sgiliau modur manwl.
-
Rhannu cariad at lyfrau – gadewch i blant ddewis hoff straeon a mwynhau eu darllen dro ar ôl tro.
For children in Nursery and Reception, the most helpful way parents can support reading at home is by developing strong language and listening skills. Early reading is not about getting children to read words or letters as quickly as possible; instead, it is about building vocabulary, listening carefully and enjoying stories, songs and rhymes. These experiences create the important foundations children need before they begin formally learning to read words at school.
You can support your child at home by:
-
Talking together often – everyday conversations help develop vocabulary and understanding.
-
Reading stories every day – enjoy books together and talk about the pictures, characters and events.
-
Singing songs and nursery rhymes – rhymes help children hear patterns and sounds in words.
-
Playing listening games – notice sounds around you such as birds, cars or musical instruments.
-
Encouraging drawing and mark-making – this develops early writing and fine motor skills.
-
Sharing a love of books – let children choose favourite stories and enjoy reading them again and again.
Isod mae dolenni i fideos y gallwch eu defnyddio i wrando ar straeon Cymraeg gyda’ch plentyn. Mae gwrando ar straeon yn ffordd wych o ddatblygu iaith, geirfa a chariad at lyfrau.
Below are links to videos you can use to listen to Welsh stories with your child. Listening to stories is a wonderful way to develop language, vocabulary and a love of books.
Cefin y Coala Carcus / The Koala Who Could
Dewch i glywed stori Cefin y Coala Carcus yn cael ei darllen gan Gareth Delve. Mae Cefin yn hoffi pethau fel y maen nhw, heb ddim newid. Ond tybed beth sy’n digwydd pan mae pethau’n newid yn ddirybudd un diwrnod? Stori ddoniol a thyner ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo’n bryderus wrth wynebu newid.
Come and listen to the story “The Koala Who Could” read by Gareth Delve. Cefin likes things just the way they are, with no changes at all. But what happens when things suddenly change one day without warning? A funny and gentle story for anyone who feels anxious when facing change.
Cwtsh!
Addasiad dwyieithog o ‘Hugless Douglas’ gan yr awdur llyfrau plant enwog David Melling. Mae’r llyfr yn rhan o’n ‘Cyfres Cwtsh’, sy’n seiliedig ar gyfres ‘Hugless Douglas’ sydd wedi gwerthu 1.5 miliwn o gopïau mewn 26 o ieithoedd! Dysgwch Gymraeg ochr yn ochr â’ch plentyn wrth ddilyn y fideo hwn – cyn bo hir bydd y ddau ohonoch yn darllen yn Gymraeg hefyd!
A bilingual adaptation of ‘Hugless Douglas’, by world famous children’s author David Melling. The book is part of our ‘Cyfres Cwtsh’; ‘Hugless Douglas’ series with 1.5 million copies sold in 26 languages! Learn Welsh along with your child as you follow along with this video. You both soon be reading along in Welsh!
Deg Deinosor Bach / 10 Small Dinosaurs
Eurig Salisbury sy’n darllen ei addasiad o Ten Little Dinosaurs – Deg Deinosor Bach. Mae fideos Amser Stori yn adnodd defnyddiol i rieni sydd eisiau dysgu Cymraeg gyda’i plant, ac hefyd i ddysgwyr Cymraeg. Mae’r llyfrau stori yn ddwyieithog ac ar gael ar ein gwefan https://atebol-siop.com ac yn eich siopau lleol.
Eurig Salisbury reads his adaptation of Ten Little Dinosaurs – Deg Deinosor Bach. The Amser Stori videos are a useful resource for parents who want to learn Welsh with their children, as well as for Welsh learners. The storybooks are bilingual and are available on our website https://atebol-siop.com and in your local bookshops.
Dyma Fi! Dyma Fi!
Yn y fideo hwn, mae Dafydd yn cyflwyno’r stori Dyma fi! Dyma fi! Stori ddoniol am Cadi y cameleon direidus, sy’n dysgu nad yw’n syniad da dangos i ffwrdd drwy’r amser! – Gwefan Atebol uwchben
In this video, Dafydd presents the story Dyma fi! Dyma fi! A funny story about Cadi the mischevious chameleon, who learns that it isn’t clever to show off all the time! These videos are based on our bilingual story books for children, pick up the book, watch the video and you’ll soon be able to read the story in Welsh! – Atebol website above